Description: NRW_logo_RGB_stack

 

 

Ymchwiliad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Bolisi Morol yng Nghymru

 

Sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Chwefror 2015

 

 

1.    Diben Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Diben Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod yr amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal yn gynaliadwy, eu gwella’n gynaliadwy a’u defnyddio’n gynaliadwy, heddiw ac yn y dyfodol.

 

Mae Cymru’n wynebu llawer o heriau – i’w phobl a’i chymunedau, i’w heconomi ac i’w hamgylchedd a’i bywyd gwyllt. Mae’r materion allweddol yn cynnwys her y newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, yr angen i greu a chynnal swyddi a’r angen i gynhyrchu ynni. Rydym yn credu, trwy ddatgloi’r potensial a geir yn adnoddau Cymru, trwy eu rheoli a’u defnyddio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ac integredig, y gallant helpu i oresgyn yr heriau a wynebwn.

 

Fel rhan o’r gwaith o oresgyn yr heriau hyn:

 

Byddwn yn gweithio dros gymunedau yng Nghymru i sicrhau bod pobl a’u cartrefi'n cael eu gwarchod rhag digwyddiadau amgylcheddol megis llifogydd a llygredd. Byddwn yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu, defnyddio a chael budd o adnoddau naturiol Cymru.

 

Byddwn yn gweithio dros economi Cymru ac yn galluogi defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol er mwyn cynnal swyddi a menter. Byddwn yn helpu busnesau a datblygwyr i ddeall ac ystyried effeithiau amgylcheddol wrth iddynt wneud penderfyniadau pwysig.

 

Byddwn yn gweithio i gynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd i bawb. Byddwn yn helpu i wneud yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yn fwy gwydn yn wyneb y newid yn yr hinsawdd a phwysau eraill.

 

Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth, ac yn dysgu o’r wybodaeth sydd gan eraill, i wneud Cyfoeth Naturiol Cymru’n sefydliad effeithlon, effeithiol a medrus i bobl ac amgylchedd Cymru.

2.    Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr amgylchedd morol

 

Mae’r amgylchedd morol yn ffurfio bron hanner arwynebedd tiriogaethol Cymru ac mae’n cyflenwi buddion pwysig i’r gymdeithas, gan gynnwys swyddi, bwyd ac adnodd ar gyfer hamdden ac ymlacio. Mae’n bwysig i’n moroedd fod yn iach a chael eu rheoli’n gynaliadwy er mwyn sicrhau y gallwn barhau i’w mwynhau a chael budd ohonynt yn y dyfodol.

 

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl sylweddol yn y gwaith o reoli’r amgylchedd morol yn gynaliadwy o’r glannau hyd at 12 milltir fôr ohonynt.

 

Yn gryno, mae ein rôl yn yr amgylchedd morol yn cynnwys y pethau canlynol (ond nid yw’n gyfyngedig iddynt):

 

 

 

3.    Cynnydd yn erbyn yr argymhellion o’r Ymchwiliad i Bolisi Morol ym mis Ionawr 2013

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n croesawu’r gwaith craffu parhaus gan y Pwyllgor ar gynnydd polisi morol yng Nghymru. Rhoddodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ill dau dystiolaeth fanwl i’r ymchwiliad gwreiddiol ym mis Ionawr 2013 a rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru dystiolaeth i’r adolygiad cyntaf o’r ymchwiliad ym mis Chwefror 2014. Felly dylai’r Pwyllgor gyfeirio’n ôl at y dogfennau blaenorol hynny.

 

At ddibenion y sylwadau hyn, fel yn achos yr adolygiad cyntaf yn 2014, byddwn yn canolbwyntio yn ein sylwadau ar y cynnydd sydd wedi’i wneud mewn perthynas â’r 13 argymhelliad a ddaeth allan o’r ymchwiliad gwreiddiol, yr ydym wedi’u trefnu’n 4 maes allweddol:

 

 

 

4.    Polisi Morol yng Nghymru

 

Erbyn hyn mae Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru wedi’i sefydlu ers dwy flynedd ac yn gweithio’n llwyddiannus tuag at, fel y bwriedid, ddull mwy integredig o gyflawni polisi morol a rheoli’r amgylchedd morol. Mae’r dull integredig hwn wedi cael ei atgyfnerthu ymhellach trwy greu Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gyfuno swyddogaethau morol hen gyrff Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. 

 

Mae Cynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd, a gymerodd i ystyriaeth argymhellion ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor, yn dal i fod yn gynllun lefel uchel, uchelgeisiol, ond un sydd wedi darparu ffocws clir a blaenoriaethau ar gyfer y gwaith o gyflawni polisi morol. Mae her gynyddol sicrhau adnoddau yn y sector cyhoeddus yn gyffredinol wedi golygu, mwy nag erioed, ei bod yn hanfodol nodi meysydd gwaith blaenoriaethol yn glir.

 

I’r perwyl hwn, dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi sefydlu cyswllt rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, er mwyn nodi blaenoriaethau morol a rennir. Mae rhaglenni morol Cyfoeth Naturiol Cymru yntau hefyd wedi cael eu datblygu a’u blaenoriaethu i lywio ac ymateb i flaenoriaethau’r Llywodraeth.

 

Mae’r dull hwn o gyflawni mewn partneriaeth, nid yn unig rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, ond gyda llawer o bartneriaid allweddol eraill, yn dangos dealltwriaeth gyffredin gynyddol o’r heriau yr ydym i gyd yn eu hwynebu wrth weithio i sicrhau y rheolir ein moroedd yn gynaliadwy ac mae hefyd yn ein galluogi i ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithlon.

 

Mae’r diddordeb parhaus mewn cynlluniau mawr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ym moroedd Cymru’n pwysleisio’r her barhaus o sicrhau bod meysydd polisi perthnasol nad ydynt o fewn cylch gwaith Is-adran y Môr a Physgodfeydd, megis ynni a dŵr morol, yn cael eu cynnwys i raddau digonol yn y gwaith o ddatblygu a chyflawni polisi morol, ac yn arbennig y broses cynllunio morol. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl gynghori ar draws y meysydd polisi hyn ac felly gall gynorthwyo â’r gwaith o ganfod rhyngberthnasoedd a materion o bwys rhwng y meysydd polisi a phenderfynu pellgyrhaeddol hyn sydd i gyd yn effeithio ar iechyd a chynhyrchiant ein moroedd.

 

Wrth ymateb i adolygiad y Pwyllgor o’r ymchwiliad yn 2014, gwnaeth y Gweinidog nifer o ymrwymiadau i barhau i gydweithio’n agos â rhanddeiliaid. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad hwn, ac yn nodi bod y Grŵp Cynghori ar Strategaeth Forol Cymru bellach yn gweithio’n effeithiol fel seinfwrdd ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru wrth fwrw ymlaen â’r Cynllun Gweithredu Strategol. Mae Grwpiau Cynghori Pysgodfeydd y Glannau a Grŵp Cynghori Pysgodfeydd Morol Cymru hefyd wedi ymsefydlu erbyn hyn ac yn darparu cyswllt effeithiol â rhanddeiliaid a chydweithio gyda’r sector pysgota a sefydliadau cysylltiedig. Mae nifer o ymgynghoriadau arwyddocaol â rhanddeiliaid i fod i ddigwydd yn 2015[1]; bydd yn bwysig sicrhau bod y rhain mor integredig ag sy’n bosibl yn nhermau amserau a negeseuon er mwyn adeiladu ar yr ymgysylltu llwyddiannus sydd wedi bod hyd yma ac er mwyn osgoi dryswch a blinder ymysg rhanddeiliaid.

 

 

5.    Cynllunio Morol

 

Mewn tystiolaeth flaenorol nodasom, er bod y cynnydd wrth weithredu cynllunio morol wedi bod yn arafach yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ein bod yn croesawu ymrwymiad parhaus y Gweinidogion i gael Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru ar waith erbyn diwedd 2015.  Mae’r ymrwymiad hwn wedi bod yn ysgogydd cryf sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol wrth weithredu cynllunio morol yn y flwyddyn ddiwethaf.

 

Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a rhoi cyngor iddi, dros y flwyddyn ddiwethaf yn y gwaith o fwrw ymlaen â dau gam allweddol mewn gweithredu cynllunio morol, sef:

a)    cyhoeddi Ymarfer Cwmpasu Strategol Drafft  - y sail dystiolaeth ar gyfer y cynllun morol, a

b)    ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y weledigaeth a’r amcanion ar gyfer y cynllun.

 

Mae’r dogfennau hyn wedi cychwyn y broses o bennu cwmpas a chyfeiriad i’r cynllun a nodi’r sail dystiolaeth fydd yn sylfaen iddo. Rydym yn cydnabod y bydd y cynllun cyntaf yn un lefel uchel, fydd yn gosod y cyfeiriad a pholisi strategol, ond y bydd cynlluniau dilynol yn datblygu dros amser o ran eu manylion a’u heffeithiolrwydd wrth i’n dealltwriaeth o’r maes morol wella.

 

Fel y dywedwyd o’r blaen, bydd data a thystiolaeth (amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol) yn chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o gefnogi’r broses cynllunio. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n casglu a chadw amrywiaeth o ddata amgylcheddol a rheoleiddiol a fydd yn berthnasol i gynllunio morol. Er hynny, un o’r prif heriau o hyd o ran rheoli adnoddau morol yn gynaliadwy yw’r bylchau yn ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r maes morol. Y broses cynllunio morol fydd y fframwaith trosfwaol i flaenoriaethu anghenion o ran gwybodaeth ar gyfer y gwaith o gynllunio a rheoli’r amgylchedd morol. Rydym yn croesawu’r ffaith fod yr Ymarfer Cwmpasu Strategol drafft wedi cael ei lunio, ond yn cydnabod bod gwaith i’w wneud o hyd i weld yn glir anghenion penodol o ran tystiolaeth i gefnogi’r gwaith o gyflawni polisi cynllunio morol; dylai’r ddealltwriaeth hon ddatblygu wrth i’r broses cynllunio fynd rhagddi. Hefyd mae rhagor o gyfleoedd i hybu rhannu data ar draws sectorau.

 

Mae monitro’r amgylchedd morol yn rhan bwysig o’n sail dystiolaeth. Mae gwaith monitro a wneir gan CNC yn cyfrannu at nifer o feysydd polisi morol gan gynnwys, er enghraifft, y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac, fel y mae’n mynd rhagddo, cynllunio morol. Rydym yn parhau i weithio’n ddiwyd fel cyfrannwr i Strategaeth Monitro ac Asesu Morol y Deyrnas Unedig a’r grwpiau tystiolaeth cysylltiedig ac rydym yn gwneud gwaith i nodi blaenoriaethau o ran tystiolaeth bioamrywiaeth forol i Gymru ac fel rhan o waith blaenoriaethu’r Deyrnas Unedig gyda Defra.

 

Un her y mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynorthwyo Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hi yw sefydlu perthynas glir rhwng cynllunio morol (sy’n cael ei lywodraethu gan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir) a gwaith integredig i reoli adnoddau naturiol (a fydd yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf yr Amgylchedd i Gymru). Mae hyn yn gysylltiedig â mater ehangach sef sicrhau bod y berthynas rhwng y cynllun morol a threfnau cynllunio eraill sy’n bodoli (gan gynnwys cynllunio defnydd tir, cynlluniau rheoli basnau afonydd a chynlluniau rheoli traethlin) yn cael ei diffinio a bod y trefnau’n ystyried ei gilydd. Dylai gwreiddio egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Barthau Arfordirol yn y cynllun morol, yn ôl y bwriad a gadarnhawyd gan y Gweinidog ym mis Mai 2014 yn ei ymateb i adolygiad y Pwyllgor yn 2014, helpu gyda chymhlethdod gweithgareddau a threfnau cynllunio a rheoli cysylltiedig ar y glannau.    

 

Yn ddiweddar lansiodd gweinyddiaethau llywodraethol y Deyrnas Unedig ymgynghoriad ar y cyd ar Raglen Mesurau drafft y Deyrnas Unedig i sicrhau Statws Amgylcheddol Da o dan Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol. Dyma’r cam allweddol olaf yng nghylch cyntaf y gwaith o weithredu’r Gyfarwyddeb. Felly yn 2015 dylai dau fframwaith strategol allweddol ar gyfer cynllunio a rheoli ym moroedd Cymru a’r Môr Celtaidd ehangach gael eu cwblhau; mae hwn yn gam allweddol tuag at reolaeth gynaliadwy fwy integredig ar yr amgylchedd morol ond dylid cydnabod ei fod yn ddechrau proses ailadroddus yn hytrach na’i diwedd.

 

Edrychwn ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’i chynghori ar garreg filltir allweddol sef cynhyrchu’r Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf i Gymru eleni. Mae’r amserlen yn dal i fod yn uchelgeisiol, ond yn gyflawnadwy os caiff adnoddau eu blaenoriaethu mewn modd addas, a chynorthwyo i gynhyrchu’r cynllun yw un o brif flaenoriaethau CNC yn y maes morol.

 

 

6.    Ardaloedd Morol Gwarchodedig

 

Rhaid i Gymru gyfrannu at rwydwaith cydlynol o ardaloedd morol gwarchodedig a reolir yn dda erbyn 2016, er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol a Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir (2009). Fel y nodwyd yn yr Ymchwiliad blaenorol, ac yn yr adolygiad cyntaf, mae problemau o hyd mewn perthynas â rheoli safleoedd sy’n bodoli eisoes, a chydlyniant y rhwydwaith.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r cyrff cadwraeth natur statudol a gweinyddiaethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig i bwyso a mesur rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig y Deyrnas Unedig. Mae’r gwaith yn gymhleth a thasg heriol yw ei gydgysylltu, ond erbyn hyn disgwylir canlyniadau llawn y gwaith hwn, a’r dadansoddiad yn eu sgil o unrhyw fylchau o ran safleoedd Cymru, yn 2016. Bydd hyn yn llywio rhaglen waith yn y dyfodol i lenwi unrhyw fylchau a ganfyddir.

 

Fel y dangoswyd yn ein tystiolaeth i’r adolygiad o’r ymchwiliad y llynedd, rydym eisoes yn gwybod am rai bylchau yn y rhwydwaith, yn enwedig mewn perthynas ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig o dan y Gyfarwyddeb Adar ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer llamhidyddion o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Nodwyd y ddau fwlch hyn gan y Gweinidog yn ei ddatganiad ym mis Mai 2014. Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud yn y meysydd hyn yn y flwyddyn ddiwethaf, yn benodol:

 

Un o’r prif amcanion ar gyfer rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru yw iddynt gael eu rheoli’n effeithiol fel y gallant gyfrannu at iechyd a gwydnwch yr amgylchedd morol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n parhau i weithio’n agos gyda’r Llywodraeth ar y maes hwn. Cafodd Grŵp Llywio Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig i Gymru ei greu yn 2014 i ddarparu cydgysylltu strategol i waith rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig ym moroedd Cymru. Fel ei dasg gyntaf, cytunodd y Grŵp Llywio ar Weledigaeth ac Amcanion ar gyfer y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig ac erbyn hyn mae’n trafod, gyda rhanddeiliaid, ddewisiadau ar gyfer dull rheoli ar sail ardaloedd i’r rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig fel rhwydwaith integredig yn hytrach na safleoedd unigol ar wahân.

 

Yn ddiweddar mae Defra wedi dechrau ar ymgynghoriad ar ail gyfres o Barthau Cadwraeth Morol yn nyfroedd Lloegr a dyfroedd môr mawr y Deyrnas Unedig. Nid yw’r gyfres hon o safleoedd yn cynnwys unrhyw safleoedd yn nyfroedd môr mawr Cymru, gan ein bod yn aros am ganlyniad argymhellion Comisiwn Silk 2[2].  Fodd bynnag, mae cynnydd wedi cael ei wneud gyda gweithredu darpariaethau Parthau Cadwraeth Morol yn Neddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir yn nyfroedd tiriogaethol Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Cychwynnwyd Rhan V o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir ym mis Rhagfyr 2014 gan drosi’r moroedd o gwmpas Ynys Sgomer yn awtomatig o Warchodfa Natur Forol i Barth Cadwraeth Morol – y cyntaf yn nyfroedd Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi ymrwymo o hyd, am y tro, i barhau â’r trefniadau rheoli lleol ar Ynys Sgomer. Yn y tymor hirach, fodd bynnag, bydd trefniadau rheoli ar Ynys Sgomer yn cael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad dros Gymru gyfan o drefniadau rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n cael ei gyflawni gan Grŵp Llywio Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.

 

Ar adeg pan fo pwysau cynyddol ar adnoddau, er hynny gwelwyd cynnydd sylweddol yn 2014 tuag at rwydwaith mwy cydlynol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a reolir yn dda. Dylid gweld cynnydd pwysig yn y flwyddyn nesaf hefyd gyda gwaith i fynd i’r afael â’r bylchau a erys yn y safleoedd a rhagor o drefniadau i wella rheolaeth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo o hyd i’w rôl yn y gwaith o sicrhau’r gwelliannau hyn.

 

 

7.    Trwyddedu Morol

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf ers yr adolygiad blaenorol o’r ymchwiliad, mae’r dyletswyddau trwyddedu morol wedi cael eu cynnal a’u gwella yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r tîm trwyddedu morol yn parhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac i weithredu newidiadau i’r broses i gynorthwyo â phenderfyniadau amserol a phrofiad gwell i’r cwsmer. Mae gan y tîm berthynas ddatblygedig ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru ac mae’n gweithio’n ddiwyd gyda’r Llywodraeth ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys adolygiad o ffioedd a chynllunio morol. Mae’r tîm hefyd wrthi’n ymgysylltu â nifer o randdeiliaid megis Ystad y Goron, Marine Energy Pembrokeshire a Phorthladdoedd Cymru fel y gall lywio a chynorthwyo â materion strategol megis datblygiadau ynni o’r tonnau ac o’r llanw.

 

Mae’r holl geisiadau am drwyddedau morol a ddaw i law ac y penderfynir arnynt yn cael eu cyhoeddi ar wefan CNC. Mae’r holl ddogfennau trwyddedu morol yn cael eu storio ar ein System Rheoli Dogfennau fewnol a gall y cyhoedd gael dogfennau o wneud cais onid ydynt yn cael eu hystyried yn gyfrinachol. Mae’r weithdrefn hon yn bodloni’r gofynion a geir o ran cofrestr gyhoeddus yn y ddeddfwriaeth forol berthnasol sef Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (fel y’u diwygiwyd), Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a Rheoliadau Trwyddedu Morol (Cofrestr o Wybodaeth Trwyddedu) (Cymru) 2011.

 

Byddai angen ystyried datblygu cofrestr gyhoeddus ar-lein fel rhan o unrhyw strategaeth technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn y dyfodol yn CNC. Byddai angen i system o’r fath gefnogi holl drefnau trwyddedu CNC gan na fyddai’n gost effeithiol na phriodol datblygu system benodol ar gyfer trwyddedu morol.

 

 

8.    I gloi

 

Mae’r sector cyhoeddus yn wynebu cyfnod anodd wrth fodloni galw cynyddol am wasanaethau yng nghyd-destun pwysau ar adnoddau. Yn yr amgylchedd morol mae hyn i’w deimlo i’r byw fel cynnydd sydyn mewn gofynion ac ymrwymiadau i gyflawni polisïau a deddfwriaeth ar y cyd â phwysau ar adnoddau ar draws pob rhan o’r sector cyhoeddus, yn y Llywodraeth ac mewn cyrff cynghori a chyflawni hyd braich, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Er gwaethaf hyn, mae cynnydd da wedi cael ei wneud yn ddiweddar gyda chyflawni polisi morol yng Nghymru a gyda dull mwyfwy integredig o gynllunio a rheoli’r amgylchedd a gweithgareddau morol. Un elfen bwysig yn y cynnydd da yw’r dull mwyfwy partneriaethol o gyflawni oddi wrth y Llywodraeth ac ar draws pob sector. Elfen bwysig arall yw cydnabod yr angen i flaenoriaethu gwaith yn glir er mwyn cyflawni canlyniadau. Bydd y ddwy elfen hyn, sef gweithio partneriaethol a blaenoriaethu, yn hanfodol er mwyn cynnal momentwm y gwaith cyflawni.

 

Mae cyfleoedd cyffrous o’n blaen yng Nghymru; er enghraifft, Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru, rhagor o gamau sylweddol tuag at sicrhau rhwydwaith cydlynol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a reolir yn dda, ac o bosibl rhoi cynlluniau ynni adnewyddadwy morol ar waith. Yn wir, un o’r prif heriau yn y flwyddyn i ddod fydd sicrhau nad yw rhanddeiliaid morol yn cael eu llethu gydag ymgynghoriadau a thrafodaethau digyswllt, ond eu bod yn teimlo’n rhan o strategaeth gydlynol i wella iechyd ein moroedd a’r defnydd cynaliadwy ohonynt.  

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n falch o fod yn rhan o raglen uchelgeisiol o waith yng Nghymru i sicrhau bod ein moroedd yn iach ac yn cael eu rheoli’n gynaliadwy fel y gallwn barhau i’w mwynhau a chael budd ohonynt yn y dyfodol.

 

 

 

Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Chwefror 2015

 



[1] Mae’r ymgynghoriadau morol allweddol yn 2015 yn cynnwys: Rhaglen Mesurau arfaethedig Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol a lansiwyd yn ddiweddar; Cynllun Morol Cenedlaethol drafft i Gymru; ymgynghoriad posibl ar AGA ac ACA morol newydd; a’r ymgynghoriad cyfredol ar Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd.

[2] Mae Rhan 2 o Gomisiwn Silk, Bil Cymru a Deddf Cymru 2014, yn argymell y “dylid ymestyn cyfrifoldebau gweithredol presennol Gweinidogion Cymru dros gadwraeth forol a thrwyddedu yn ardal glannau Cymru i ddyfroedd môr Cymru”.